Beth sydd gennym i’w gynnig
Mae Gwella’ch Saesneg a’ch Mathemateg yn wefan benodol gan y t2 Group, un o gwmnïau hyfforddiant mwyaf y Deyrnas Unedig.
Os ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd ac yn teimlo bod angen ichi wella’ch sgiliau Saesneg neu Fathemateg, gallwn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau hynny yn eich gwaith, gydag ystod o hyfforddiant sydd wedi’i ariannu’n llawn. Mae’r hyfforddiant hwn ar gael drwy’r Asiantaeth Ariannu Sgiliau yn Lloegr a Llywodraeth Cymru yng Nghymru, wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Datblygu’ch Saesneg
Nod y cwrs yw helpu i wella’ch Saesneg, gan gynnwys siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu’n effeithiol at amrywiaeth eang o ddibenion yn y gweithle. Mae’r cwrs yn ymdrin â gwahanol strategaethau darllen a sillafu, cynllunio ac ysgrifennu cyfarwyddiadau, llythyrau a gwahanol fathau o destun, yn ogystal â datblygu’ch sgiliau gwrando a thrafod. Bydd cyfle i gyflawni tasgau fydd yn caniatáu ichi ymarfer a defnyddio’r sgiliau hyn mewn ffyrdd sy’n briodol o fewn amgylchedd gwaith.
Mae meysydd penodol y byddwn yn ymdrin â nhw’n cynnwys:
- Deall ac ymateb i iaith lafar mewn amryw o gyd-destunau gwahanol
- Cyfathrebu gwybodaeth, teimladau, opsiynau a chyfarwyddiadau mewn ffordd bendant
- Cymryd rhan mewn trafodaethau ffurfiol gyda grwpiau o bobl
- Gwrando, deall ac egluro
- Defnyddio strategaethau i gefnogi’r hyn rydych chi’n ei ddweud
- Cyflwyno gwybodaeth a syniadau’n eglur ac yn hyderus
- Ymateb i, a gofyn cwestiynau gyda hyder
- Defnydd priodol o iaith mewn sefyllfaoedd gwahanol
- Paratoi ar gyfer trafodaethau a darparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r pwnc
- Defnydd priodol o iaith y corff
- Llunio brawddegau cyfansawdd, gan ddefnyddio cysyllteiriau priodol
- Defnydd cywir o atalnodi, gan gynnwys y collnod
Cymwysterau a gynigir
Bydd dysgwyr yn ennill cymhwyster City & Guilds achrededig Sgiliau Hanfodol/Sgiliau Ymarferol yn y Gweithle hyd at Lefel 2 yn Saesneg.
Hyd y cwrs
Tua 6-12 awr o hyfforddiant a datblygiad yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn a’r busnes.
Gwybodaeth i Ddysgwyr a Chyflogwyr
A hoffech chi wybod mwy am ein gwaith ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang), yr Iaith Gymraeg neu hoffech chi wybod sut allwn ni gwrdd â’ch anghenion chi.
I fynd i’n Porth Dysgwyr Cliciwch Yma ac i fynd i’n Porth Cyflogwyr Cliciwch Yma .