Beth sydd gennym i’w gynnig
Mae Gwella’ch Saesneg a’ch Mathemateg yn wefan benodol gan y t2 Group, un o gwmnïau hyfforddiant mwyaf y Deyrnas Unedig.
Os ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd ac yn teimlo bod angen ichi wella’ch sgiliau Saesneg neu Fathemateg, gallwn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau hynny yn eich gwaith, gydag ystod o hyfforddiant sydd wedi’i ariannu’n llawn. Mae’r hyfforddiant hwn ar gael drwy’r Asiantaeth Ariannu Sgiliau yn Lloegr a Llywodraeth Cymru yng Nghymru, wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Datblygu’ch Mathemateg
Nod y cwrs yw adeiladu ar eich lefel bresennol o Fathemateg, gan ganolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen yn y gwaith bob dydd ac mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys cyfrifo gyda chyfanrifau, ffracsiynau a chanrannau, cymarebau a graddfa, mesur siâp a gofod, yn ogystal â defnyddio ystadegau a chyflwyno data.
Bydd cyfle i gyflawni tasgau fydd yn caniatáu ichi ymarfer y rhain mewn senarios go iawn.
Mae meysydd penodol y byddwn yn ymdrin â nhw’n cynnwys:
- Canfod a defnyddio dulliau a chyfrifiadau sy’n addas ar gyfer tasgau penodol yn y gwaith
- Casglu a chofnodi data’n fanwl gywir
- Darllen, deall ac echdynnu gwybodaeth o dablau, diagramau, siartiau a graffiau syml
- Gweithio hyd lefelau priodol o gywirdeb
- Dehongli canlyniadau cyfrifiadau’n hyderus
- Darllen a deall rhifau a gyflwynir mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys rhifau mawr mewn ffigyrau neu eiriau, ffracsiynau syml, degolion, canrannau, cymarebau a rhifau negyddol
- Canfod dulliau priodol o gyflwyno’ch canfyddiadau i gynulleidfa gyfarwydd, gan gynnwys y defnydd o siartiau a diagramau
Cymwysterau a gynigir
Bydd dysgwyr yn ennill cymhwyster City & Guilds achrededig Sgiliau Hanfodol/Sgiliau Ymarferol yn y Gweithle hyd at Lefel 2 mewn Mathemateg.
Hyd y cwrs
Tua 6-12 awr o hyfforddiant a datblygiad yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn a’r busnes.
Gwybodaeth i Ddysgwyr a Chyflogwyr
A hoffech chi wybod mwy am ein gwaith ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang), yr Iaith Gymraeg neu hoffech chi wybod sut allwn ni gwrdd â’ch anghenion chi.
I fynd i’n Porth Dysgwyr Cliciwch Yma ac i fynd i’n Porth Cyflogwyr Cliciwch Yma .